#

 

 

 

 


Briff Ymchwil:

1.       Rhagymadrodd

Mae'r papur hwn yn rhoi diweddariad ar y datblygiadau diweddaraf ar Brexit sy'n berthnasol i Gymru. Mae'n cynnwys adrannau ar y gwaith yn y Cynulliad ac yn Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y Deyrnas Unedig; ac yn yr Alban ac Iwerddon. Y cyfnod o dan sylw yw 27 Hydref i 10 Tachwedd, er bod cyfeiriadau at ddigwyddiadau wedyn lle mae gwybodaeth ar gael adeg y gwaith drafftio terfynol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (EAAL) yw’r Pwyllgor sy’n arwain yn y Cynulliad o ran cydlynu gweithgareddau’r Pwyllgorau ynglŷn â Brexit. Mae’r Pwyllgor wrthi’n cynnal ymchwiliad ar Oblygiadau Posibl Gadael yr UE yng Nghymru.

Dyma sesiynau diweddaraf ymchwiliad y Pwyllgor EEAL:

§    7 Tachwedd: seminar gydag arbenigwyr ar gysylltiadau o fewn y Deyrnas Unedig, a sesiwn craffu gyda Phrif Weinidog Cymru. Trawsgrifiad ar gael yma.

§    31 Hydref: Polisi’r Amgylchedd a’r Môr – seminar thematig gydag arbenigwyr

Mae diweddariadau rheolaidd ar waith y Pwyllgor EAAL yn cael eu gosod ar Flog y Cynulliad: https://assemblyblog.wales/tag/european-union/.

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae’r Pwyllgor hwn wedi lansio galwad am dystiolaeth ar ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru.

Eraill

Mae nifer o bwyllgorau eraill y Cynulliad yn trafod ymchwiliadau posibl i Brexit ac wrth i’r rhain gael eu cadarnhau byddwn yn cynnwys manylion yn y Diweddariad Brexit hwn.

Dadleuon yn y Cyfarfod Llawn

§    Ar 9 Tachwedd gwnaeth Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw AC, ddatganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r dyfarniad gan yr Uchel Lys ar sbarduno Erthygl 50.

§    Ar 9 Tachwedd gwnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Newid hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ddatganiad, a ddilynwyd gan gwestiynau, ar ymchwiliad y Pwyllgor i ddyfodol polisïau amaethyddol a gwledig yng Nghymru.

§    Ar 1 Tachwedd, rhoddodd y Prif Weinidog ddatganiad, a ddilynwyd gan ddadl, ar Drefniadau Pontio yr UE.

Llywodraeth Cymru

Mae prifysgolion a busnesau Cymru wedi sicrhau mwy na €50m o gyllid gan raglen ymchwil ac arloesi fwyaf yr UE, Horizon 2020, yn ôl ystadegau diweddar. (27 Hydref).

Rhanddeiliaid yng Nghymru

§    “It is essential for the food and farming sector to maintain full, unfettered access to the single market while having continued access to a flexible, competent and reliable workforce.” (NFU Cymru, 1 Tachwedd).

3.       Datblygiadau ar lefel yr UE

Y Cyngor Ewropeaidd

8 Tachwedd: Ffocws cyfarfod blynyddol ECOFIN-EFTA oedd twf economaidd a buddsoddiadau. Dyma linellau olaf yr hysbysiad i’r wasg “The EU and EFTA therefore don't see each other as "third" countries, but as neighbours with the same important economic challenges and priorities. Brexit only provides more impetus to that agenda.”

CETA – Cytundeb Masnach Rydd Canada a’r UE

Llofnodwyd y cytundeb hwn ar 30 Hydref. Rhaid i Senedd Ewrop a’r Cyngor gydsynio i CETA er mwyn iddo ddod i rym dros dro, ac wedyn gellir defnyddio'r cytundeb. Dewis aelod-wladwriaethau'r UE - a gefnogir gan y Comisiwn - yw y bydd y System Llys Buddsoddiadau y tu allan i rychwant CETA dros dro. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar ôl i’r holl aelod-wladwriaethau orffen eu gweithdrefnau cymeradwyo gwladol y caiff ei roi ar waith.

Y Comisiwn Ewropeaidd

Comisiwn Juncker yn cyflwyno’i drydedd Raglen Waith flynyddol: Sicrhau Ewrop sy’n gwarchod, yn grymuso ac yn amddiffyn (hysbysiad i’r wasg a dolenni). Yr un yw’r ffocws o hyd, sef y 10 blaenoriaeth a bennwyd gan Juncker ar ddechrau ei Lywyddiaeth, gan osod y pwyslais “…squarely on delivery…” (tudalen 16 o COM(2016)710). Mae’r Rhaglen Waith yn cynnwys:

§    21 o Fentrau Allweddol (cafwyd 23 yn Rhaglenni Gwaith 2015 a 2016)

§    18 o weithredoedd REFIT – sef adolygu addasrwydd polisïau/deddfau presennol yr UE at eu diben

§    35 o flaenoriaethau i’r Cyd-ddeddfwyr – sef y cynigion presennol yn y system lle mae angen i’r Cyngor a Senedd Ewrop weithredu

§    19 o gynigion yn y system yn cael eu tynnu’n ôl neu eu haddasu

§    16 o ddarnau o ddeddfwriaeth i’w diddymu

Mae’r Comisiwn wedi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar opsiynau polisi ynglŷn â gosod gofynion ynghylch dŵr wedi’i ailddefnyddio yn yr Undeb Ewropeaidd: ymatebion erbyn 27 Ionawr 2017.

Senedd Ewrop

§    Cyllideb hirdymor yr UE: Aelodau Senedd Ewrop yn pleidleisio dros fwy o le i ymdopi ag argyfyngau. (26 Hydref)

§    Aelodau Senedd Ewrop yn datgan eu safbwynt ar flaenoriaethau economaidd yr UE ar gyfer 2017. (26 Hydref)

§    Galwodd y Senedd am ragor o gyllid, i helpu pobl ifanc i mewn i swyddi, i hybu twf yr economi ac i helpu trydydd gwledydd, er mwyn lleddfu’r argyfwng ymfudo, mewn pleidlais yn y cyfarfod llawn ddydd Mercher. Gwrth-drodd Aelodau Senedd Ewrop doriadau arfaethedig y Cyngor yng nghyllideb ddrafft yr UE ar gyfer 2017. (26 Hydref)

4.       Datblygiadau ar lefel y Deyrnas Unedig

Dyfarniad ar Erthygl 50

Collodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr achos ynghylch pleidlais seneddol ar Erthygl 50 Brexit. Caiff yr apêl ei gwrando yn y Goruchaf Lys 5-8 Rhagfyr. (3 Tachwedd)

Datganiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddyfarniad yr Uchel Lys ar Erthygl 50. (3 Tachwedd)

Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Dyfarniad yr Uchel Lys ar Lywodraeth y DU yn sbarduno Erthygl 50. (3 Tachwedd)

Ar 4 Tachwedd 2016, mewn ymateb i’r dyfarniad, nododd Mick Antoniw AC, Cwnsler Cyffredinol Cymru “yn unol â’r pŵer a roddir imi o dan adran 67 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rwy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd i ymyrryd yn yr apêl arfaethedig gerbron y Goruchaf Lys. Bwriadaf gyflwyno sylwadau am oblygiadau penodol penderfyniad arfaethedig y Llywodraeth i Gymru.” Rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad yn y cyfarfod llawn hefyd, a ddilynwyd gan gwestiynau, ar 8 Tachwedd. Ar 2 Tachwedd cyn y dyfarniad, atebodd gwestiwn ar Erthygl 50 a Setliad Datganoli.

Ar 8 Tachwedd 2016 cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y bydd yn ymyrryd yn achos cyfreithiol Erthygl 50.

Mark Carney: Dyfarniad y llys yn ychwanegu at ansicrwydd o ran economi’r Deyrnas Unedig  (Politico, 3 Tachwedd)

Ar 4 Tachwedd siaradodd y Prif Weinidog â’r Llywydd Tusk a’r Arlywydd Hollande, ac â’r Canghellor Merkel a’r Llywydd Juncker i ddweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal yn bwriadu sbarduno Erthygl 50 cyn diwedd mis Mawrth 2017.

Ar 7 Tachwedd rhoddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd ddatganiad ac atebodd gwestiynau ar broses sbarduno Erthygl 50. Ailadroddwyd y datganiad yn Nhŷ'r Arglwyddi a chafwyd dadl wedyn.

UAC yn galw am eglurder brys ar Brexit yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys (3 Tachwedd)

Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Parhaodd y Prif Weinidog â’i rownd o gyfarfodydd â Phenaethiaid Gwladwriaethau a Llywodraethau aelod-wladwriaethau'r UE.

Datganiad ar y cyd rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig ac India. (7 Tachwedd)

Araith y Prif Weinidog i Uwch-gynhadledd Technoleg India a’r Deyrnas Unedig. (7 Tachwedd)

Ymweliad gwladol Colombia: Datganiadau i’r wasg gan y Prif Weinidog a’r Arlywydd Santos. (2 Tachwedd)

Rhoddodd y Prif Weinidog, Theresa May, ddatganiad yn sgil penderfyniad Nissan i gynhyrchu’r Qashqai newydd a model newydd yn eu ffatri yn Sunderland. (27 Hydref)

Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (JMC)

Cyfarfod Llawn y JMC

Cynhaliwyd cyfarfod llawn o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (JMC) ar 24 Hydref, y cyntaf ers y bleidlais Brexit, ac ymateb y Deyrnas Unedig i Brexit oedd y brif eitem ar agenda’r cyfarfod. Bu’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn bresennol yn nghwmni Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC. Roedd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn bresennol yng nghwmni ei Gweinidog Brexit, Michael Russell MSP.

Mewn communiqué ar y cyd a gyhoeddwyd ar ôl y cyfarfod dywedwyd bod y rhai a fu’n bresennol wedi cytuno i fwrw ymlaen ag ymgysylltu amlochrog drwy gyd-bwyllgor Gweinidogion newydd ar Negodiadau’r UE i’w adnabod fel JMC (EN). Cadarnhawyd y cyhoeddiadau ym mis Medi ynglŷn â’r bwriad i sefydlu JMC "Brexit" penodol. Cytunwyd ar y cylch gorchwyl canlynol ar 24 Hydref:

Cydweithio wrth negodi ar yr UE

Drwy’r JMC(EN) bydd y llywodraethu’n gweithio mewn cydweithrediad:

-    i drafod gofynion pob llywodraeth ynglŷn â’r berthynas â’r UE yn y dyfodol;

-    i geisio cytuno ar ymagwedd y Deyrnas Unedig at negodiadau Erthygl 50, a’r amcanion ar eu cyfer;

-    i oruchwylio’r negodiadau gyda’r UE, er mwyn sicrhau, cyn belled ag y gellir, fod canlyniadau y cytunir arnynt gan bob un o’r pedair llywodraeth yn cael eu sicrhau drwy’r negodi hwn; ac

-    i drafod materion sy’n deillio o’r broses negodi a allai effeithio ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru neu Weithrediaeth Gogledd Iwerddon neu a allai greu canlyniadau iddynt.

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC ddatganiad ar ôl cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, gan ddilyn hynny â datganiad gerbron y cyfarfod llawn ar 1 Tachwedd, a chymryd cwestiynau gan nifer o aelodau.

Tynnodd y datganiad ar 24 Hydref sylw at barhad yr ‘ansicrwydd’ ynghylch manylion safbwynt y Deyrnas Unedig, a datblygwyd hyn ymhellach yn ei ddatganiad ar 1 Tachwedd 2016:

Mae'n siomedig, ac yn niweidiol i hyder, nad yw Llywodraeth y DU, hyd yn hyn, wedi cynnig amlinelliad cydlynol o'i hymagwedd gyffredinol at ei thrafodaethau am yr UE. Nid oes llawer o esgusodion am beidio â gwneud hynny, ac nid yw’r gohirio, ac mae’n rhaid dweud, y negeseuon dryslyd a chymysg, yn helpu hygrededd y DU. Felly, mae angen i Lywodraeth y DU gael trefn ar bethau.

Tanlinellodd mor bwysig yw mynediad dirwystr i’r Farchnad Sengl.

Yn ei ddatganiad ar 1 Tachwedd galwodd am ddiwygio Grant Bloc Cymru yng ngoleuni ymadael â’r UE, ac y byddai hynny’n dod “yn gynyddol bwysig ar gyfer sefydlogrwydd yn y misoedd i ddod” o gofio’r effaith ar fynediad i gyllid yr UE. Nododd hefyd fod Llywodraeth Cymru’n gofyn am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig “…am y penderfyniad Nissan, a'r goblygiadau i fusnesau yng Nghymru”.

Nododd Prif Weinidog Cymru hefyd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ‘ildio’ i alwadau’r gweinyddiaethau datganoledig am gyfarfod yn amlach a rôl ystyrlon yn nhrafodaethau Brexit.

Cafodd cyfarfod llawn y JMC ei ddisgrifio gan Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, fel “long overdue…but…in large parts, hugely frustrating”. O ran sylwedd y trafod, dywedodd hyn:

As a first step we agreed that there must be a detailed work programme developed ahead of the first meeting of the sub-committee.  Crucially we agreed that this must be integrated with the wider process so that the devolved administrations can influence key Cabinet Sub-Committee decisions. We also agreed that there will be a further meeting of heads of government in the New Year.

Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ei bod yn bwriadu cynnig llinell uniongyrchol i’r gweinyddiaethau datganoledig i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod trafodaethau Brexit, gan ddisgrifio'r cyfarfod fel un 'adeiladol', a dweud y bydd 'cydweithio' rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig yn gwneud Brexit yn llwyddiant.

JMC (EN)

Cyfarfu JMC (EN) am y tro cyntaf ar 9 Tachwedd, o dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr UE, David Davis AS, gyda chyfraniad gan Weinidogion o’r Gweinyddiaethau Datganoledig, gan gynnwys Mark Drakeford AC ar ran Llywodraeth Cymru. Yn y cyfarfod, gofynnodd David Davis AS i’r Gweinyddiaethau Datganoledig gyflwyno’u dadansoddiad nhw o Brexit i helpu i lunio blaenoriaethau’r trafodaethau. Yn gyfnewid am hynny, addawodd rannu syniadau diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Brexit. Trefnwyd bod JMC (EN) yn cyfarfod yn fisol.

Tŷ’r Cyffredin

Ar 26 Hydref clywodd y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd gan y Gweinidog Gwladol David Jones AS, am sut y bydd yr adran yn gweithio o ran llunio a chydlynu polisïau a fydd yn llywio cysylltiadau’r Llywodraeth â’r UE.

Ar 31 Hydref rhoddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a’r Strategaeth Ddiwydiannol ddatganiad, a ddilynwyd gan gwestiynau, am ei sicrwydd i Nissan a’u penderfyniad nhw i fuddsoddi yn Sunderland.

Ar 2 Tachwedd cafwyd dadl ohirio ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o undeb tollau’r UE.

Ar 3 Tachwedd atebwyd cwestiynau ar y Fasnach Ryngwladol gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, yr Is-Ysgrifennydd Seneddol dros Fasnach Ryngwladol a’r Gweinidog dros Fasnach a Buddsoddi. Cafwyd dadl hefyd ar Adael yr UE: Gwasanaethau Ariannol.

Ar 7 Tachwedd arweiniodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a’r Strategaeth Ddiwydiannol ddadl ar adael yr UE a hawliau gweithwyr.

Mae’r pwyllgor newydd ar Adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cyhoeddi ei ymchwiliad cyntaf i edrych ar amcanion y Deyrnas Unedig ar gyfer tynnu’n ôl o’r UE.

Mae nifer helaeth o ymchwiliadau a gwaith ar Brexit yn amrywiol Bwyllgorau Dethol Ty'r Cyffredin. Mae hyn yn cynnwys:

§    Y Pwyllgor Addysg: a gyhoeddodd alwad am dystiolaeth i’w ymchwiliad - effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar addysg uwch.

§    Pwyllgor Archwilio’r Amgylchedd: ymchwiliad – Dyfodol yr Amgylchedd Naturiol ar ôl Refferendwm yr UE.

§    Y Pwyllgor Cyfiawnder: ymchwiliad ynghylch goblygiadau Brexit ar gyfer Dibynwledydd y Goron.

                                         

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi a'i chwe is-bwyllgor yn cynnal cyfres gydlynol o ymchwiliadau i’r materion allweddol a fydd yn codi yn y trafodaethau sydd ar y gweill ar Brexit.

Ar 27 Hydref cafwyd cwestiynau am Brexit a’r Diwydiannau Creadigol, yr UE a Chanada: Cytundeb Cynhwysfawr ar yr Economi a Masnach, a dadl ar y cyfleoedd a gynigir gan bleidlais y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd o ran hybu masnach rydd fyd-eang, a’r effaith ar fasnach ddomestig a rhyngwladol .

Ar 31 Hydref ailadroddodd Gweinidog Gwladol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y datganiad a wnaed y diwrnod hwnnw yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch Nissan, ac ateb cwestiynau.

Ar 1 Tachwedd trafodwyd Brexit mewn cwestiwn ar Hedfan a Masnach Ryngwladol. Cafwyd cwestiwn arall ar fasnach ac effaith Brexit.

Trafodwyd ymglymiad y Senedd yn Erthygl 50 ar 2 Tachwedd, a goblygiadau penderfyniad yr Uchel Lys ar Erthygl 50 ar 3 Tachwedd. Yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw cafodd effaith Brexit ar brifysgolion ac ymchwil wyddonol ei thrafod.

Ar 2 a 9 Tachwedd cymerodd yr Is-bwyllgor ar Ynni’r UE a’r Amgylchedd dystiolaeth ynghylch polisi newid hinsawdd a materion trawsffiniol ar ôl Brexit. Holwyd arweinwyr busnes ar 8 Tachwedd. Ceir sesiwn arall ar 16 Tachwedd.

Cymerodd Is-bwyllgor Materion Allanol yr UE dystiolaeth Llysgennad Japan ar 9 Tachwedd fel rhan o’i ymchwiliad ynghylch Brexit: dyfodol y fasnach nwyddau rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE. Ar 3 Tachwedd cymerodd yr is-bwyllgor dystiolaeth ynghylch Brexit: y fasnach mewn nwyddau moduro, aerofod ac amddiffyn.

Cymerodd Is-bwyllgor Materion Ariannol yr UE dystiolaeth ar 2 Tachwedd ynghylch effaith Brexit ar y sector gwasanaethau ariannol.

Mae Is-bwyllgor Materion Cartref yr UE wedi lansio ymchwiliad newydd i Brexit: symudiadau pobl rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE. Cymerir tystiolaeth ar ddiwedd Tachwedd. Ar 2 Tachwedd cymerodd yr is-bwyllgor dystiolaeth y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Erlyniadau’r Goron, ar sut y gallai’r Deyrnas Unedig gydweithredu â’r UE ar faterion yr heddlu a diogelwch ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r UE. Ar 15 Tachwedd bydd yr is-bwyllgor yn clywed gan Syr Julian King, Comisiynydd (y Deyrnas Unedig) dros Undeb Diogelwch.

Ar 3 Tachwedd clywodd Is-bwyllgor Marchnad Fewnol yr UE gan gyrff yn y diwydiannau creadigol a manwerthol fel rhan o’u hymchwiliad ar Brexit: dyfodol masnach y Deyrnas Unedig a’r UE mewn gwasanaethau.

Ar 1 Tachwedd cymerodd Is-bwyllgor Cyfiawnder yr UE dystiolaeth ar hawliau dinasyddion yr UE ar ôl Brexit.

Ar 1 Tachwedd cymerodd y Pwyllgor Dethol ar yr UE dystiolaeth gan y Gwir Anrh David Jones AS, Gweinidog Gwladol yn yr Adran ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd, ar ganlyniad cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ym mis Hydref .

Newyddion eraill

Cyfryngau’r India yn cysylltu Brexit â rheolau fisas. (BBC, 7 Tachwedd)

5.       Yr Alban

Senedd yr Alban

Ar 26 Hydref rhoddodd y Gweinidog ar gyfer Negodi gyda’r Deyrnas Unedig ar Le’r Alban yn Ewrop ddiweddariad ar gamau yn sgil canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, gyda chwestiynau wedyn.

Ar 27 Hydref cafwyd dadl ar gynnig gan y Llywodraeth: yr amgylchedd a newid hinsawdd —refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Cafodd y cynnig diwygiedig ei basio.

Ar 1 Tachwedd agorodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder ddadl ar refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd: effeithiau ar gyfiawnder a diogelwch yn yr Alban.

Y Pwyllgor Cysylltiadau Ewropeaidd ac Allanol

Ar 3 Tachwedd cymerodd y pwyllgor dystiolaeth ar Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (Goblygiadau ar gyfer yr Alban).

Llywodraeth yr Alban

Datganiad Llywodraeth yr Alban: Marchnad yr UE yn allweddol i fusnes yr Alban  - Bygythiad Brexit i dwf masnach. (7 Tachwedd)

6.       Gogledd Iwerddon

Ar 28 Hydref gwrthododd yr Uchel Lys yn Belfast ddwy her ar ffurf adolygiad barnwrol yng Ngogledd Iwerddon i’r modd y mae’r Llywodraeth yn bwriadu sbarduno Erthygl 50 o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd er mwyn ysgogi’r ymadawiad â’r UE.

Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon

31 Hydref: Mae Gweinidog yr Economi’n bwriadu datblygu Cynllun Masnach Ryngwladol newydd a sefydlu Tasglu Llwybrau Awyr i Ogledd Iwerddon.

7.       Cysylltiadau Prydain ac Iwerddon

Byddai Brexit caled yn niweidio Iwerddon yn barhaol, yn ôl astudiaeth gan yr Adran Gyllid a’r Sefydliad Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. (RTE)

Tŷ’r Oireachtas (Senedd Iwerddon)

25 Hydref: dadl yn y Seanad ar Brisiau Amaethyddol a Phenderfyniad y Deyrnas Unedig i Adael yr UE.

8.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd

§    On the referendum #20: the campaign, physics and data science – Vote Leave’s ‘Voter Intention Collection System’ (VICS) now available for all (blog Dominic Cummings)

§    Brexit and Beyond: How the UK might leave the EU - UK in a Changing Europe ar ran y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol